Event Info
Nos Wener 3 Hydref, 7.15pm, 60 munud
Tocynnau: £15.00
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth - Stiwdio
PRYNWCH DOCYNNAU YMA yn uniongyrchol o Ŵyl Gomedi Aberystwyth
‘Dach chi’n iawn cariad? Hoffech chi weld sioe gerddoriaeth seicedelig sy’n cyfuno dipyn o wyddoniaeth gyda chomedi ac sy’n llawn electronica, animeiddiadau o Barbies ac ystlumod, ynghyd â mymryn o fawiach ac opera reit yn eich wyneb? Mae gan Carys Eleri bopeth i chi yn ei sioe wych newydd Tonguing lle mae’n archwilio niwrowyddoniaeth cysylltiad yn y byd blin, uwch-dechnolegol, polaraidd hwn trwy gyfrwng caneuon am wancio ynghyd â darnau bach gwyddonol difrifol, wedi'u hategu gan ychydig o ymchwil trwm, a all eich helpu efallai i ddadbacio rhai pethau yn eich bywyd chi yn ogystal.
“Anghyffredin, annisgwyl - rhaid i chi weld y sioe hon - athrylith pur” ***** The Edit Wales
“Carys Eleri ar ei gorau” Huw Stephens BBC Radio 6 Music
“Mae Carys yn ffrwydro i mewn i gân fel Pavarotti’r dydd modern” *****
Upside Adelaide
14 oed+
Tocynnau Hynt
Mae angen i aelodau Hynt gysylltu â boxoffice@littlewander.co.uk gyda’u rhif aelodaeth cyn prynu tocynnau fel y gellir gosod eu manylion ar ein system mewn da bryd.
Cliciwch yma i ffeindio allan os ydych chi neu’r person yr ydych yn gofalu amdano yn gymwys ar gyfer cerdyn Hynt neu gliciwch yma i wneud cais.
Ardoll Wella
Mae £2.00 o bris y tocyn fel y’i hysbysebir ar-lein yn mynd at Ŵyl Gomedi Aberystwyth er mwyn parhau i ddatblygu a gwella’r ŵyl.