Event Info
Vincente Minnelli, UDA 1951, 113 munud
Gene Kelly sy’n serennu yn y sioe gerdd boblogaidd hon. Pan mae’r cyn-GI Jerry Mulligan yn aros ym Mharis i ddilyn bywyd fel artist, caiff ei ddarganfod yn fuan gan noddwraig gyfoethog sydd â diddordeb mewn mwy na dim ond ei gelf. Cyn iddo sylweddoli, mae'n cael ei hun wedi'i rwygo rhwng diogelwch ariannol a'r ddynes ifanc Ffrengig y mae wedi syrthio mewn cariad â hi. Yn ffilm wych gyda chaneuon yr un mor wych gan George ac Ira Gershwin, mae hon yn wledd go iawn i'w phrofi ar y sgrîn fawr.