Event Info
Francis Ford Coppola, UDA 1979, 182 munud
Gyda bron i 40 munud o luniau ychwanegol, dyma fersiwn estynedig Francis Ford Coppola o, gellir dadlau, un o'r ffilmiau mwyaf dylanwadol a wnaethpwyd erioed. Yn erbyn cefndir gwallgofrwydd Rhyfel Fietnam mae llofrudd Byddin yr Unol Daleithiau, y Capten Willard (Martin Sheen), yn cychwyn ar daith beryglus i fyny'r afon trwy'r jyngl i ladd Cyrnol sy’n absennol heb ganiatâd (Marlon Brando). Wedi'i hadfer mewn 4K yn uniongyrchol o'r negatifau camera gwreiddiol, dyma fersiwn derfynol ddewisol Coppola ac mae'n ddiamau yn un o'r profiadau sgrîn fawr mwyaf godidog posibl.
Tocynnau £5 yn unig os gwelwch Hearts of Darkness hefyd.
Ewch i'r Swyddfa Docynnau er mwyn cael y cynnig arbennig yma!