Event Info
Stanley Kubrick, y DU 1975, 185 munud + egwyl
Adferiad 4K hyfryd o addasiad godidog a moethus Stanley Kubrick o nofel glasurol William Thackeray o'r 18fed ganrif. Wedi'i orfodi i adael Iwerddon ar ôl lladd swyddog o Loegr mewn gornest, mae'r Redmond Barry ifanc (Ryan O'Neal) yn ceisio ei ffortiwn fel milwr ac ysbïwr, cyn yn y pen draw ffeindio ei ffordd i mewn i aristocratiaeth Lloegr. Gyda chywirdeb hanesyddol rhyfeddol a tableaux wedi'u hadeiladu'n ofalus a ffiilmwyd gan ddefnyddio cannwyll a golau naturiol yn unig, mae campwaith Kubrick yn atgoffa un am baentiadau Rococo mawreddog Constable a Gainsborough, gan fynd â chelf mewn sinema i uchelfannau nas gwelir yn aml.