Ewch at gynnwys
Event Image
Sad 27 Med
·
Cerddoriaeth

Event Info

Canllaw Oedran: Nid yw'r gweithdy a'r perfformiad wedi'i anelu at blant. Nid yw'n addas ar gyfer plant iau ond mae croeso i blant hŷn yn ôl disgresiwn rhieni ond deall bod y digwyddiad hwn wedi'i anelu at oedolion. Rhaid i blant hŷn fod yng nghwmni oedolyn.

Amseri: Gweithdy 2yp-4.30yp / Perfformiad 5.30yh – 6.30yh - mae eich tocyn yn cynnwys y ddau.

Rhediad: Gweithdy 2.5 awr / Perfformiad 60 munud

Ymunwch â’r cantorion a’r arweinwyr côr Ben a Dom am brynhawn o ganu harmoni hwyliog a dyrchafol gyda chyngerdd min nos yn dilyn. Mae'r digwyddiad hwn yn agored i bob canwr; nid oes angen profiad canu blaenorol.

Bydd Ben a Dom yn dysgu detholiad o ganeuon hygyrch a melodaidd mewn ffordd hwyliog a chynhwysol. Yn dilyn y gweithdy byddant y perfformio cyngerdd o ganeuon, gan gynnwys deunydd gwreiddiol a threfniannau o’u hoff glasuron.

Deuawd canu o dde Llundain yw Ben a Dom. Mae Ben yn cymryd y nodau uchel a Dom y nodau isel (y rhan fwyaf o'r amser). Mae cyfuniad cywrain eu harmonïau yn deillio o gyfeillgarwch agos a chariad a rennir tuag at ganu gyda’i gilydd. Maent yn plethu eu lleisiau o amgylch caneuon hen a newydd, gan berfformio deunydd gwreiddiol ochr yn ochr â dehongliadau newydd o ganeuon gwerin. Mae geiriau'r caneuon yn cyffwrdd â chyfeillgarwch, natur a'r hyn y mae'n ei olygu i ddau ddyn ganu gyda'i gilydd yn yr oes fodern hon.Mae Ben a Dom wedi mynd â’u caneuon a’u lleisiau o gwmpas y DU, gan ymddangos mewn gwyliau a chwblhau taith 20-dyddiad yn 2022 i hyrwyddo eu halbwm cyntaf His Head Lies Heavy (‘... anhygoel o grefftus a hardd’ - Folk London). Maent wedi rhannu’r llwyfan gyda Tom Robinson a The Young Uns ac maent yn cydweithio’n rheolaidd gyda ffrindiau a chantorion sy’n rhannu eu cariad tuag at lais ac harmoni.

Cafodd eu EP cyntaf Shoulder (2021), a ysgrifennwyd yn ystod pandemig Covid-19, dderbyniad brwd gan gynulleidfaoedd a’r diwydiant, (“Canu a cappella manwl gywir” - Tom Robinson, “Record cyntaf trawiadol” - Folking) gyda’u caneuon yn ymddangos ar restrau chwarae BBC 6Music a Radio 3. Mae Ben a Dom yn arweinwyr côr profiadol ac yn gerddorion cymunedol. Maent wrth eu bodd yn rhannu eu cariad at ganu mewn grŵp ac yn annog eraill i uno eu lleisiau gyda’i gilydd mewn harmoni. Mae eu hamserlen brysur yn cynnwys rhedeg côr Gŵyl Caergrawnt, cynnal cyrsiau yn Halsway Manor a chydweithio gyda chorau ledled y DU.

Canllawiau Cynnwys: Wedi'i anelu at oedolion - Nid yw'n addas ar gyfer plant iau.

Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.

Event Image

Dyddiadau a Thocynnau

Dydd Sadwrn 27 Medi, 2025
14:00