Ewch at gynnwys
Event Image
Iau 2 Hyd
·
Cerddoriaeth

Event Info

Canllaw Oedran: Addas i bawb

Rhediad: 45 munud/toriad 20 munud/45 munud

Ma'r trwmpedwr Tomos Williams yn dychwelyd i Aberystwyth gyda'i brosiect newydd sy'n ail-ddychmygu cerddoriaeth draddodiadol Cymru. Mae'r band ‘Blodeugerdd / The Great Welsh Songbook’ yn cynnwys sêr y sîn jazz Cymreig: Huw Warren (piano) Paula Gardiner (bas) a Mark O’Connor (drymiau), a bydd Rachel Musson yn ymuno ar y tenor sax, y gantores ifanc arbennig Eadyth Crawford yn ogystal a Tomos ar y trwmped.

Teilt chwareus ywr 'Great Welsh Songbook' sy'n tynnu ar yr enw 'The Great American Songbook' sef conglfaen nifer o alawon a chyfansoddiadau'r byd jazz. Bydd 'Blodeugerdd' yn cynnwys trefniannau newydd o alawon gwerin Cymreig yn y traddodiad jazz

Ewropeaidd - gan dynnu ysbrydoliaeth o Wlad Pwyl i'r Eidal, Ffrainc i'r Ffindir. Meddyliwch am sŵn jazz adnabyddus ECM – gyda llais Cymreig.

Diolch i Tŷ Cerdd am nawdd i gyfansoddi'r gerddoriaeth newydd ac i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth am gefnogi'r prosiect.

Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.

Event Image

Dyddiadau a Thocynnau

Dydd Iau 02 Hydref, 2025
20:00