Ewch at gynnwys
Event Image
Mer 17 Med - Sul 21 Med
·
Sinema

Event Info

Cyfarwyddwyd y ffilm am ddychweliad David Gilmour i Circus Maximus hanesyddol Rhufain yn 2024 fel rhan o’r daith Luck and Strange, ei daith gyntaf mewn bron i ddegawd, gan Gavin Elder, cydweithredwr hirdymor Gilmour. Mae'r sioe fawreddog, a ffilmiwyd yn erbyn cefndir adfeilion hynafol Rhufain, yn cyfuno traciau unigol o albwm diweddaraf David, Luck and Strange, gan gynnwys fersiwn gyffrous o Between Two Points gyda Romany Gilmour yn ogystal ag anthemau clasurol Pink Floyd fel Sorrow, High Hopes, Breathe, Time, Wish You Were Here, a Comfortably Numb. Bu’r daith Luck and Strange yn ymestyn dros dri ar hugain o ddyddiadau mewn pum dinas a werthodd allan yn syth. Heb unrhyw sioeau newydd ar y gorwel, y sgriniad sinema arbennig hwn yw'r ffordd orau a'r unig ffordd i brofi meistr ei grefft ar y llwyfan. 

150 munud

Dechrau ar amser – dim hysbysebion

Event Image

Dyddiadau a Thocynnau

Dydd Mercher 17 Medi, 2025
19:00
Dydd Sul 21 Medi, 2025
17:15