Event Info
Mae'r
amser wedi dod i ffarwelio'n annwyl â’n hen ffrindiau yn rhan olaf saga Downton
Abbey. Wrth i’r teulu Crawley a'u staff symud ymlaen i'r 1930au, mae Mary yn
ffeindio’i hun yng nghanol sgandal gyhoeddus ac mae'r teulu'n wynebu
trafferthion ariannol. Wrth i'r aelwyd gyfan ymdopi â bygythiad gwarth
cymdeithasol, fe’u gorfodir i wynebu eu gorffennol a derbyn newid wrth iddynt
baratoi ar gyfer pennod newydd yn eu bywydau. Yn serennu Simon Russell Beale,
Hugh Bonneville a Penelope Wilton.