Event Info
Ciro Guerra, Colombia, 2015, 124 munud
Sgriniad arbennig Gŵyl Ffilm WOW yn dathlu 10fed penblwydd ffilm Ciro Guerra, Embrace of the Serpent, a enwebwyd ar gyfer gwobr Oscar. Wedi'i gweld trwy lygaid Karamakate, y siaman olaf o'i lwyth i oroesi, mae'r ffilm yn dilyn ei daith yn tywys dau wyddonydd o'r Gorllewin, degawdau ar wahân, trwy Amazon Colombia i chwilio am y planhigyn Yakruna cysegredig . Wedi'i hadrodd mewn du a gwyn trawiadol, mae'n archwilio effeithiau dinistriol gwladychiaeth, crefydd ac ecsbloetiaeth ar ddiwylliannau cynhenid a'r amgylchedd, tra’n anrhydeddu gwydnwch ac ysbryd cadarn yr Amazon. Wedi'i hysbrydoli gan ddyddiaduron teithio Theodor Koch Grunberg a Richard Evans Schultes, mae'r ffilm nodedig hon yn parhau i fod yn gampwaith sinematig o ran adrodd straeon byd-eang.