Ewch at gynnwys
Event Image
Iau 14 Awst - Iau 28 Awst
·
Cerddoriaeth

Event Info

Ymunir â John Sylvester a Julie McNicholls Vale gan rai o gast 'The Wizard of Oz' ym mar cyntedd y theatr ar ôl y sioe ar Nos Iau y 14fed, yr 21ain a’r 28ain Awst am dua 9.30yh.

Ymunwch â nhw yn y bar am dua 9.30pm ar gyfer 'Emerald City Nights' – noson o ganeuon adnabyddus.

Mae’r chwaraewr allweddfwrdd o Aberystwyth, John Sylvester, wedi chwarae mewn amrywiaeth o fandiau, ac yn dilyn llawer o gynyrchiadau theatr Castaway yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth fel cyfarwyddwr cerddorol, ffurfiodd bartneriaeth gerddorol hirsefydlog gyda Julie McNicholls Vale, gan ddifyrru cynulleidfaoedd gydag amrediad eang o bop, roc a chlasuron y sioeau cerdd.

Mae Julie yn adnabyddus hefyd fel aelod gwreiddiol o Sgarmes, a ymddangosodd ar'Pitch Battle' ar BBC 1; fel un hanner o’r grŵp merched Motown The Hornettes Take Two, a pherfformwraig reolaidd ym mhantomeimiau'r Wardeniaid.

Mae Julie a John yn perfformio’n rheolaidd yn ac o gwmpas Aberystwyth ac maent yn edrych ymlaen at gefnogi’r sioe haf eleni.

Event Image

Dyddiadau a Thocynnau

Dydd Iau 14 Awst, 2025
21:30
Dydd Iau 21 Awst, 2025
21:30
Dydd Iau 28 Awst, 2025
21:30