Event Info
Polly Steele, Iwerddon 2025, 110 munud
Wedi'i haddasu o nofel boblogaidd Niall Williams, mae Piers Brosnan, Helena Bonham Carter a Gabriel Byrne yn serennu yn y ddrama hon am dynged, cariad a thrasiedi sy'n datblygu yn erbyn cefndir hardd arfordir gorllewinol Iwerddon. Wedi'i gosod yn y 1970au cynnar, daw tad sy’n was sifil (Brosnan) yn argyhoeddedig bod arwydd gan Dduw yn dweud wrtho am gefnu ar ei deulu a dechrau bywyd newydd fel paentiwr. Mewn stori gyfochrog, mae merch ifanc yn treulio'r ychydig ddyddiau olaf ar ei chartref ar ynys anghysbell, cyn cael ei gorfodi i hwylio i ysgol leiandy ar y tir mawr. Straeon ar wahân, wedi'u tynghedu i ymblethu ...