Event Info
Andreas Dresen, DE 2025, 125 munud, is-deitlau
Berlin, 1942. Mae’r Hilde swil yn syrthio mewn cariad â Hans ac yn raddol yn dod o hyd i'w lle yn y grŵp gwrthsafiad a ddaeth i gael ei adnabod fel y "Gerddorfa Goch". Maent yn treulio haf hyfryd gyda’i gilydd pryd mae eu perthynas yn plethu gyda gweithredoedd tawel o herfeiddiad. Ond pan mae’r Gestapo yn arestio aelodau o'r grŵp, mae Hilde a Hans yn eu plith a rhaid iddynt ddod o hyd i'r nerth i wynebu eu sefyllfa. Ysbrydolwyd y ffilm gan stori wir anhygoel, wedi'i gosod yn erbyn cefndir gwlad wedi'i rhwygo gan wrthdaro, stori am gariad a gwrthsafiad.