Ewch at gynnwys
Event Image
Gwe 17 Hyd
·
Festival

Event Info

www.theeyefestival.com

Gwener 17 - Sul 19 Hydref 2025

Os oes angen seddi hygyrch arnoch, cysylltwch â'r Swyddfa Docynnau ar 01970 623232.

Wedi’i sefydlu yn 2012 a bellach yn ei deuddegfed flwyddyn,Gŵyl FfotograffiaethRyngwladol eilflwydd y LLYGAD yw’r digwyddiad ffotograffiaeth mwyaf sefydledig yng Nghymru ac un o’r gwyliau ffotograffiaeth annibynnol mwyaf ei maint yn y DU, gan ddenu cynulleidfaoedd yn amrywio o fyfyrwyr brwdfrydig i ffotograffwyr proffesiynol cydnabyddedig o bob rhan o’r byd.

Noddwyr: Camerâu Caerfyrddin a’r Cyngor Ffotograffwyr

Amserlen

Nos Wener                

7pm               Philip Hatcher Moore

Dydd Sadwrn            

10am              Denise Maxwell

11.30am         Simon Norfolk

1 - 4pm           Cinio, gweithdai, ymweliadau â’r Llyfrgell Genedlaethol

                        Sesiynau portffolio, amser arddangosfa

4pm                Harry Borden

6.30pm           Ffilm: ' Passport of Paradise' 

Dydd Sul                    

10am              Joel Goodman

11.30am         Eileen Perrier gyda Daniel Meadows

1 - 2pm           Cinio                          

2pm               Jenny Matthews

3.30pm           Sesiwn Panel gyda Siaradwyr Gwadd

                                                     

Ynglyn â’r Siaradwyr:

Harry Borden

Harry Borden yw un o ffotograffwyr portreadau gorau’r DU. Mae ei waith wedi ymddangos mewn llawer o gyhoeddiadau amlycaf y byd, gan gynnwysThe New Yorker,VogueaTime. ‘Roedd Borden yn enillydd gwobr yng nghystadeluaeth Ffotograff Gwasg y Byd ym 1997 a 1999, gan gymryd rhan wedyn fel aelod o’r rheithgor ar gyfer y gwobrau yn 2010 a 2011. Cafodd ei arddangosfa unigol gyntaf yn yr Oriel Bortread Genedlaethol yn Llundain yn 2005, gyda’r sefydliad ar hyn o bryd yn dal dros 100 o'i brintiau yn ei gasgliad parhaol. Yn 2014, fe’i gwnaed yn Gymrawd Anrhydeddus o’r Gymdeithas Ffotograffiaeth Frenhinol.

Yn 2017, cyhoeddwyd ei lyfr, Survivor: A portrait of the survivors of the Holocaust, gan Octopus.Wedi’i ddisgrifio gan Martin Parr fel “rhywbeth i’w wir drysori…”, a gan Alain de Botton fel “campwaith a theimladwy iawn”, fe’i barnwyd hefyd yn un o 10 llyfr ffotograffiaeth gorau 2018 gan Sefydliad Kraszna-Krausz. Daeth ail lyfr Borden, Single Dad, allan yn 2021. Rhyddhawyd ei drydydd,On Divorce, gan The School of Life yn 2023.

Denise Maxwell

Ganwyd a magwyd y ffotograffydd a gydnabyddir yn rhyngwladol Denise Maxell yn Walsall

ac mae wedi codi i amlygrwydd mewn nifer o rolau yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector.

Dechreuodd Denise ei gyrfa mewn ffotograffiaeth yn gweithio ar ddigwyddiadau a phortreadau. Blynyddoedd yn ddiweddarach mae ei phortffolio wedi ehangu i gynnwys sawl genre gan gynnwys chwaraeon (Athletau’r Diamond League), ffasiwn (Wythnos Ffasiwn Llundain), priodasau, carped coch, portreadau, cerddoriaeth, bwyd a digwyddiadau.Hyd yma, mae ei gyrfa lwyddiannus amrywiol wedi caniatau iddi ffotograffu rhai o’r bobl a’r digwyddiadau mwyaf adnabyddus yn y byd gan gynnwys unigolion fel Barack Obama, Usain Bolt, Tom Hanks ac Oprah Winfrey.

Mae hi wedi gweithio ar ddigwyddiadau megis Wythnos Ffasiwn Llundain, y Brits a’r BAFTAs ac mae ganddi restr gleientiaid sydd bellach yn cynnwys y BBC, Gumtree, Wates Construction ac Armani. Mae ei gwaith wedi ymddangos yn Vogue, yr Independent, y Guardian a chyhoeddiadau blaenllaw eraill. Mae hi wedi ymddangos ar raglenni’r BBC dwywaith eleni.

Mae bywyd proffesiynol Denise hefyd yn cynnwys dysgu yng Ngholeg Sandwell a Phrifysgol Birmingham

Joel Goodman  

Mae Joel Goodman yn ffoto-ohebydd llawrydd sy’n gweithio yn y DU ym maes newyddion,erthyglau nodwedd a rhaglenni dogfen, yn uniongyrchol i gleientiaid ac allfeydd newyddion. Mae ei luniau hefyd yn cael eu cynrychioli gan yr asiantaeth London News Pictures. Mae ei waith wedi cael ei gyhoeddi yn y wasg, cylchgronau ac ar y teledu ledled y byd. Mae’n aelod o Gymdeithas Brydeinig Ffotograffwyr y Wasg ac mae’n credu’n gryf mewn gwasg rydd ac agored, lle mae tyst ffotograffiaeth yn chwarae rhan hollbwysig mewn materion cyfoes ac wrth ddogfennu ein byd. Fel ffotograffydd mae'n hunan-ddysgedig. Yn ogystal, mae wedi'i hyfforddi gan NCTJ (Cyngor Cenedlaethol Hyfforddi Newyddiadurwyr) sefycorff hyfforddi a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer yr holl ffotonewyddiadurwyr yn y DU. Ochr yn ochr â’i brofiad ar y ffordd, yn gweithio ar straeon newyddion a digwyddiadau mewn pob math o amgylchedd, mae wedi gweithio fel Golygydd Lluniau i asiantaethau newyddion a’r Manchester Evening News.

Phillip Hatcher Moore

Mae Phil Hatcher-Moore yn ffoto-ohebydd annibynnol Prydeinig sy’n gweithio ar hyn o bryd yng Ngogledd Cymru.

Fe’i enwyd felFfotograffydd Newydd sy’n dod i’r Amlwg PDN 30yn 2014. Arddangoswyd ei waith o ddwyrain Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo yn yr ŵyl ffoto-newyddiaduraethVisa pour l'image yn Perpignan, Ffrainc in 2013, ac yn yr un flwyddyn derbyniodd Wobr Arbennig 9fed rheithgorDays Japan. Gweithiodd am bum mlynedd yn Nairobi, Cenia.

Mae Phil wedi gweithio’n llawrydd yn rheolaidd iAgence France-Presse (AFP), yn ogystal â chyfrannu at gyhoeddiadau rhyngwladol yn cynnwys y New York Times, Der SpiegelLe MondeLibération, y Guardian, a Vanity Fair (Italia).

Simon Norfolk

Mae Simon Norfolk yn ffotograffydd tirwedd arobryn, sydd wedi ymroi i ddogfennu rhai o'r parthau rhyfel cyfoes mwyaf difrifol a'r argyfwng ffoaduriaid, gan gyfleu’n aml canlyniadau'r gwrthdaro a'i effaith ar dir a phobl.

Mae wedi cynhyrchu pedwar llyfr yn manylu ei waith. Mae'n byw ac yn gweithio yn Brighton ac mae hefyd wedi byw yn Kabul. Mae ei waith yn ymddangos yn rheolaidd yn National Geographic, Cylchgrawn y New York Times a’r Guardian Weekend

Eileen Perrier

Mae Eileen Perrier yn ffotograffydd portreadau Prydeinig sy'n byw yn Llundain. Mae hi wedi cynnal arddangosfeydd solo yn Oriel Whitechapel ac Oriel y Ffotograffwyr yn Llundain ac mae ei gwaith i'w weld hefyd yng nghasgliadau’r Tate, Light Work a Senedd y DU.

‘Roedd Perrier yn uwch ddarlithydd mewn Ffotograffiaeth rhwng 2005 a 2022 ym Mhrifysgol Westminster ac ar hyn o bryd mae'n Ddarlithydd Cyswllt ym Mhrifysgol y Celfyddydau yn Llundain (UAL).

Arweinir sesiynau C&A gan:

Sophie Batterbury

Sophie Batterbury yw Golygydd Lluniau The i Paper. Cyn hynny bu’n Bennaeth Lluniau i’r Independent.

Emyr Young

Mae Emyr Young yn ffotograffydd proffesiynol sy’n angerddol am rygbi a phêl-droed. Cyn troi’n broffesiynol yn 2002 gweithiodd fel actor, cyflwynydd ac artist llais.

Ffilm

Memories of Love Returned (12A)

Uganda/2024/Documentary/Ntare Guma Mbaho Mwine/ 1 awr 16 muned

Trailer: Memories of Love Returned (2024) TRAILER

Arddangosfeydd:

TBC

Event Image

Dyddiadau a Thocynnau

Dydd Gwener 17 Hydref, 2025
19:00