Event Info
Oedran: 7+ oedLleoliad: Stiwdio CeramegAmser: 10.30yb - 12.30ypByddwch yn greadigol efo clai yn y gweithdy ymarferol hwn ar gyfer plant 7 oed ac i fyny! Yn ystod dau sesiwn llawn hwyl, bydd artistiaid ifanc yn archwilio cerfluniau anifeiliaid gan ddefnyddio gwahanol fathau o glai. Ar ddydd Llun 11eg Awst, byddwn yn siapio anifeiliaid brown o deracota, ac ar ddydd Iau 14eg Awst, byddwn yn newid i anifeiliaid gwyn gan ddefnyddio clai gwyn. O dan arweiniad tiwtoriaid profiadol, mae'r gweithdy hwn yn gyfle gwych i ddysgu sgiliau modelu clai sylfaenol, mynegi eich dychymyg, a chewch greu anifeiliaid eich hunan i fynd adre.Noddir
tymor Haf Wiced Canolfan y Celfyddydau gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant
Gyffredin y DU, gyda chefnogaeth Cronfa Cynnal y Cardi trwy Gyngor Sir
Ceredigion.Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn ganolog i agenda Ffyniant Bro
Llywodraeth y DU ac yn darparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiad lleol
erbyn mis Mawrth 2025. Mae’r Gronfa yn anelu at wella balchder mewn lleoliadau
a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU trwy fuddsoddi mewn cymunedau a lle, a
chefnogi busnesau lleol, pobl a sgiliau.