Event Info
Eleanor Coppola, Fax Bahr, George Hickenlooper, UDA 1991, 96 munud
Yn y 1970au hwyr, mentrodd Francis Ford Coppola a'i griw i jynglau trwchus y Philipinau i ddechrau gwaith ar y ffilm a ddaeth yn y pen draw ei gampwaith, sef Apocalypse Now. Ond yn fuan trodd y daith o'r dudalen i'r sgrîn yn hunllef uffernol, fygythiol a oedd yn adleisio naratif y ffilm - gwir adfyd a effeithiodd yn ddifrifol ar bawb.Ffilm ddogfen arloesol a phersonol am sut y gwnaethpwyd un o ffilmiau gorau'r byd yn sgil un o'r teithiau ffilmio mwyaf drwg-enwog yn hanes y sinema.
Cewch weld Apocalypse Now am £5 yn unig gyda thocyn ar gyfer Hearts of Darkness.
Ewch i'r Swyddfa Docynnau er mwyn cael y cynnig arbennig yma!