Event Info
Canllaw Oedran: 5+ oed
Rhediad: 65 munud - dim toriad
‘Rydym i gyd eisiau cwrdd â phobl o hanes! Y broblem yw bod pawb wedi marw!Felly mae’n amser i baratoi ar gyfer Horrible Histories yn fyw ar y llwyfan gyda chynhyrchiad clodwiw Gorgeous Georgians and Vile Victorians!A ydych yn barod i siglo gyda brenin Sioraidd? Beth fydd eich barn am y Dug Wellington? A fyddech yn sefyll i fyny drosoch eich hun yn erbyn y Dick Turpin erchyll? A fedrwch helpu ditectifs i ddod o hyd i'r dyn heb ben? Ydych chi'n meiddio dawnsio’r jig Tyburn? A fyddwch yn cael eich achub gan Florence Nightingale? Ffeindiwch allan beth a wnaethpwyd gan ffermwr babis - a mwynhewch yr hwyl ym mharti’r Frenhines Fictoria!Peidiwch â cholli’r hanes erchyll hwn o Brydain gyda’r darnau cas wedi eu cadw i mewn!Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.