Event Info
Steven
Spielberg, UDA 1975, 124 munud Wrth i dref lan môr Ynys Amity baratoi i ddathlu ei chanmlwyddiant,
mae Siarc Gwyn Mawr sy'n hoff o nofwyr yn dechrau patrolio'r glannau. Pan mae
maer y dref yn gwrthod canslo'r dathliadau, gan wahodd cannoedd o bobl i dyrru
i'r traeth, mae'r Siryf Brody, biolegydd morol a hen gapten cwch pysgota, yn
cymryd pethau i’w dwylo eu hunain. Wedi'i hail-ryddhau i sinemâu mewn 4K a sain
7.1, mae hon yn gamp sinematig syfrdanol sydd yr un mor ingol ag yr oedd 50
mlynedd yn ôl.