Event Info
Mathieu Kassovitz, Ffrainc 1995, 97 munud, is-deitlau Saesneg
Mae ffilm ffrwydrol Mathieu Kassovitz yn dilyn hanes tri o bobl ifanc yn eu hugeiniau dros gyfnod o 24 awr mewn maestref fewnfudwyr dlawd ym Mharis, wrth i densiynau gynyddu ar ôl i'r heddlu saethu llanc lleol. Dyma un o ffilmiau diffiniol y 90au, yn ôl ar y sgrîn fawr i ddathlu ei phen-blwydd yn 30 oed gydag adferiad 4K newydd. Argymhellir gan Academi Ffilm y BFI.
Cyflwyniad, dim hysbysebion.
Tocynnau £4 yn unig i unrhyw un rhwng 15 a 25 oed.