Event Info
Hannah Papacek Harper, y DU/Ffrainc, 2025, 93 munud
Mae Gŵyl Ffilm WOW yn cyflwyno'r ffilm ddogfen farddonol, gorawl hon sy'n dathlu ein perthynas â natur. Wedi'i hysbrydoli gan lyfr poblogaidd Robert Macfarlane a'r awdur a'r darlunydd Cymreig Jackie Morris, The Lost Words, mae'r ffilm yn teithio ar draws y DU, gan blethu lleisiau plant, pobl hŷn, artistiaid a gwyddonwyr trwy'r pedwar tymor, pob un gyda'i liw, sain ac awyrgylch ei hun. Trwy arsylwi’n ofalus ar dirweddau ac archwilio geirfa sy'n gysylltiedig â natur sy'n diflannu, mae'r ffilm yn myfyrio ar yr hyn yr ydym yn ei golli a sut mae iaith yn siapio ein cysylltiad â'r byd naturiol. Yn delynegol ac yn orfoleddus yn weledol, mae'n cynnig gwahoddiad gobeithiol i ail-ddeffro’r ddawn i ryfeddu ac i ailgysylltu â natur.
Bydd sesiwn holi ac ateb byw gyda chyfarwyddwraig y ffilm, Hannah Papacek Harper, yn dilyn y sgriniad.