Event Info
Dydd Mawrth 29ain o Orffennaf 2025 - 4yp
Dydd Mercher 30ain o Orffennaf 2025 - 4yp
Canllaw Oedran: Addas i bawb
Rhediad: 20 munud
Lleoliad: Foyer y Neuadd Fawr
Sioe i blant sy'n dilyn taith lindysyn trwy'r tymhorau ar ei ffordd i droi'n bili-pala hardd, gyda cherddoriaeth newydd gan y feiolinydd Simmy Singh a'r canwr gwerin Owen Shiers (Cynefin), sy'n perfformio gyda'r ddawnswraig Krystal S Lowe. Cynhyrchiad gan Gwmni Theatr Arad Goch a Musicfest Aberystwyth
Dyma stori am dyfu, newid, a dysgu byw, wedi'i hadrodd trwy gyfrwng cerddoriaeth a symud sy'n gynhyrchiad ar y cyd rhwng Cwmni Theatr Arad Goch a Musicfest Aberystwyth, gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, Tŷ Cerdd, ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.