Event Info
Canllaw Oedran: 6+ oed
Rhediad: I’w ddilyn
Cariad, Bywyd a Chwaeroliaeth
“She was the sun of my life, the gilder of every pleasure, the soother of every sorrow, I had not a thought concealed from her, and it is as if I had lost a part of myself.” - Cassandra Austen
Mae Jane Austen, yr arsyllwraig fwyaf craff honno ar yr ysbryd dynol, yn cael ei charu gennym trwy ei chymeriadau dihafal. Teimlwn ein bod yn ei hadnabod. Hi ar yr un pryd oedd yr Elizabeth Bennett annibynnol ei meddwl, yr Emma Woodhouse llawn dychymyg ac efallai yr anhunanol Elinor Dashwood.
Mwynhaodd Jane a'i chwaer annwyl Cassandra ohebiaeth fywiog, yn ymwneud â digwyddiadau bywyd a'u hemosiynau cysylltiedig dros nifer o flynyddoedd. Dinistriodd Cassandra lawer o'r llythyrau hyn, gan adael i ni ddim ond darnau i adeiladu portread o Jane.
Yn ei bywyd, yn ogystal â'i llyfrau, mae chwaeroliaeth yn thema ganolog. Mae natur amrywiol cyfeillgarwch a pherthnasoedd benywaidd yn ffurfio peth o'r rhyddiaith fwyaf teimladwy a doniol a ysgrifennwyd gan yr awdur.
Yn y datganiad hwn o eiriau gan Jane Austen, wedi’i liwio gan gerddoriaeth yr oedd hi’n ei charu gan gyfansoddwyr yn cynnwys Gluck, Handel, Haydn, Schubert; caneuon poblogaidd y cyfnod, a detholiadau o isgerddoriaeth Jonathan Dove o’r llythyrau, My Beloved Cassandra, ‘rydym yn archwilio ac yn dathlu bywyd rhyfeddol.
Alex Kingston, actor, ‘A magnificent Prospero’, Guardian
Claire Booth, soprano, ‘An actor-singer who can raise the dramatic heat as soon as she enters the stage’. Opera Now
Andrew Matthews-Owen, piano, ‘An immaculate accompanist’, BBC Music magazine
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.