Ewch at gynnwys
Event Image
Iau 31 Gor
·
Cerddoriaeth

Event Info

Canllaw Oedran: 6+ oed

Rhediad: I’w ddilyn

Ysbrydolwyd y cyngerdd hwn gan y feiolinydd Hwngaraidd Jelly d’Aranyi a oedd yn ffefryn mawr gyda chynulleidfaoedd Gregynog ac Aberystwyth o’r 1920au i’r 1950au. Cyflwynir y cyngerdd gan y feiolinydd Sara Trickey gyda rhagarweiniad gan Rhian Davies.

‘Roedd Jelly d'Arányi (Bwdapest, 30.05.1893 - Fflorens, 30.03.1966) yn feiolinydd Hwngaraidd, yn or-nith i Joseph Joachim ac yn chwaer i’r feiolinydd Adila Fachiri (1886-1962). Dechreuodd astudio fel pianydd, ond newidiodd i feiolin yn Conservatoire Franz Liszt ym Mwdapest pan dderbyniodd Jenö Hubay hi yn ddisgybl.

Ffurfiodd driawd gyda Pablo Casals, sielo a Frederick Septimus Kelly, piano. Perfformiodd hefyd gyda Béla Bartók, a gyflwynodd ei ddwy sonata ar gyfer feiolin a phiano iddi a berfformiwyd ganddynt yn Llundain ym mis Mawrth 1922 (rhif 1) a mis Mai 1923 (rhif 2).

Cyflwynodd Maurice Ravel ei Tzigane iddi; Ralph Vaughan Williams ei Goncerto Accademico. Ysgrifennodd Gustav Holst goncerto dwbl ar gyfer Jelly a'i chwaer Adila Fachiri.

Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.

Event Image

Dyddiadau a Thocynnau

Dydd Iau 31 Gorffennaf, 2025
20:00