Ewch at gynnwys
Event Image
Llun 28 Gor
·
Cerddoriaeth

Event Info

Canllaw Oedran: 6+ oed

Rhediad: I’w ddilyn

Pan ddaw’r nos:An evening of song

Cyngerdd gyda Bryn Terfel a'r Archdderwydd Mererid Hopwood a myfyrwyr o CBCDC, yng nghwmni Zoe Smith ac Iwan Davies.

Bydd yr arwr operatig Syr Bryn Terfel ac Archdderwydd Cymru, Mererid Hopwood, yn ymuno â chantorion ifanc blaengar o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru gyda’r pianydd Zoe Smith yn cyfeilio, mewn cyngerdd i ddathlu 150 mlynedd ers sefydlu Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth ar Nos Lun, Gorffennaf 28ain. Mewn cydweithrediad â’r CBCDC, bydd y cyngerdd yn cynnwys cerddoriaeth gan gyfansoddwr caneuon celf mwyaf blaenllaw Cymru, Meirion Williams, a geiriau gan rai o feirdd mwyaf adnabyddus Cymru ynghyd â cherddoriaeth a barddoniaeth sy’n olrhain cyfraniad Williams ac yn dathlu’r dylanwad a gafodd ar y cenedlaethau nesaf o gyfansoddwyr Cymreig.

‘Mae Caneuon Cymreig wedi bod yn rhan o’m bywyd ers pan oeddwn yn blentyn. Trwy gydol fy ngyrfa, yn ogystal â bod yn gefnogwr balch o’r Lieder Almaenig gwych, y Chansons Ffrengig a Chaneuon Lloegr, ‘rwyf bob amser wedi hyrwyddo caneuon gwerin a chaneuon celf y genedl gerddorol hon.

Ond mae caneuon Cymreig yn dal i fod yn rhywbeth cymharol anhysbys y tu allan i Gymru, felly ‘rwyf wrth fy modd yn rhannu’r perlau hyn gyda chantorion sy’n dod i’r amlwg ac i ddefnyddio Cronfa Syr Bryn Terfel, fy Sefydliad newydd a’m partneriaeth gyda Choleg Brenhinol Cymru, i’w cefnogi wrth ddatblygu artistiaid’ - Bryn Terfel

Nid yw wedi'i gynnwys yn y Pas Musicfest

Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.

Event Image

Dyddiadau a Thocynnau

Dydd Llun 28 Gorffennaf, 2025
20:00