Event Info
Wythnos yng Nghymru Fydd
Bydd Musicfest 2025 yn cynnig gweledigaeth o'r Gymru ddelfrydol, trwy gerddoriaeth. Mae Wythnos yng Nghymru Fydd, nofel arloesol Islwyn Ffowc Elis o 1957, yn ein gwahodd i ddychmygu'r Gymru yr hoffwn ni fyw ynddi. Wrth ddathlu canmlwyddiant ei eni, ac wedi'n hysbrydoli gan ei brif negeseuon, bydd Musicfest yn creu cymdeithas lle mae cydraddoldeb, yr iaith Gymraeg, a'n perthynas gyda'r byd o'n cwmpas, yn cael eu dathlu a'u trafod, gan greu profiad unigryw o Gymreictod trwy gerddoriaeth a geiriau. Mae'r ŵyl hon yn cynrychioli ein Cymru Fydd ddelfrydol: cymdeithas gynhwysol syn cael ei harwain gan botensial pobl ifainc, gwerthoedd ein hanes, a phosibiliadau diwylliant ffyniannus. Nid dim ond gŵyl yw hon: mae'n ffordd o fyw.
Gweler manylion llawn o’r rhaglen ar wefan Musicfest:www.musicfestaberystwyth.org
Pas Ŵyl: £180
Pas Cynnar a brynir cyn 1 Gorffennaf: £165
Pan prynwch bas yr ŵyl, dywedwch wrth y Swyddfa Docynnau beth yw eich anghenion mynediad, gallwn gadw eich hoff seddi i chi.
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.