Ewch at gynnwys
Event Image
Sad 26 Gor - Sad 6 Med
·
Cerddoriaeth

Event Info

Canllaw Oedran: 6+ oed

Rhediad: 2 awr

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, MusicFest Aberystwyth a Gwrandewch yn cyflwyno:

SeicoSerameg - Astudiaeth Afresymolwyr /PsychoCeramics - The Study of Crackpots

Yn cydfynd â "O Serameg i Sain", tair arddangosfa yn Oriel 1 yng Nghanolfan y Celfyddydau, bydd yr aml-offerynnwr o Aberystwyth, Lyndon Owen, yn cyflwyno cyfres o ddarnau difyfyr 2 awr o hyd, mewn ymateb i'r arddangosfa.

Mae'r perfformiad cychwynnol yn rhan o weithgaredd diwrnod agoriadol MusicFest Aberystwyth. Mae'r gyfres yn dechrau ar 26 Gorffennaf ac yn parhau bob pythefnos ar y 9/8, 23/8, 6/9 gan ddod i ben ar y 20/9 gyda pherfformiad triawd o drefnwyr byrfyfyr lleol.

Mynediad am ddim

Gyda chefnogaeth Prifysgol Aberystwyth, Cyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru a'r Loteri Genedlaethol

Gweler rhagor o fanylion am yr arddangosfa ar https://aberystwythartscentre.co.uk/from-ceramics-to-sound/

... ac am Lyndon Owen ar https://lyndonowen.cymru/about/

Mae Lyndon Owen yn gerddor sy'n perfformio, yn cyfansoddi ac sy’n weithgar wrth hyrwyddo digwyddiadau celfyddydau cymunedol. Yn adnabyddus yn bennaf fel sacsoffonydd sy'n canolbwyntio ar denor a soprano, mae hefyd i'w weld a'i glywed yn rheolaidd yn chwarae amrywiaeth eang o offerynnau chwyth o bob cwr o Ewrop a'r Dwyrain Canol. Mae'r rhain yn cynnwys sacsoffonau eraill, Gaita Gallega, gwahanol glarinetau, tarogato, douduk, fujara, mey, zurnah, ac amrywiol ffliwtiau topyn, sy’n creu sainluniau.

Yn bennaf yn gerddor byrfyfyr, mae'n gweithio mewn sawl genre gan gynnwys jas, cerddoriaeth y byd, cerddoriaeth glasurol gyfoes, cerddoriaeth ddawns a gwaith arbrofol rhydd.

Fel cyfansoddwr mae wedi ysgrifennu'n helaeth ar gyfer ei brosiectau perfformio a'i ffilmiau ei hun.

Mae'n curadu NAWR Aberystwyth, cyfres gyngherddau amlddisgyblaethol o gerddoriaeth arbrofol, byrfyfyr rhydd, ffilm, lo-fi, jas rhydd, celfyddyd sain, cerddoriaeth werin amgen a cherddoriaeth newydd.

Mae hefyd yn rheoli cwmni sy'n gwneud cynhyrchion cerddoriaeth ar gyfer pobl â Dementia a phroblemau gwybyddol eraill.

Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.

Event Image

Dyddiadau a Thocynnau

Dydd Sadwrn 26 Gorffennaf, 2025
14:00
Dydd Sadwrn 09 Awst, 2025
14:00
Dydd Sadwrn 23 Awst, 2025
14:00
Dydd Sadwrn 06 Medi, 2025
14:00