Event Info
Canllaw Oedran: 6+ oed
Rhediad: I’w ddilyn
Sefydlwyd Cerddorfa Siambr Cymru i lenwi’r bwlch ym mywyd creu cerddoriaeth Cymru rhwng perfformiadau unawdau ac ensembles cerddoriaeth siambr bach a pherfformiadau’r gerddorfa symffoni.
Ers ei sefydlu ym 1986 mae wedi perfformio gyda llawer o unawdwyr gorau’r byd ac wedi ymgymryd â nifer o deithiau cyngerdd Ewropeaidd yn ogystal â pherfformio ledled y DU. Am flynyddoedd lawer bu’n gerddorfa siambr breswyl yng Nghyfres Cyngherddau Rhyngwladol Abertawe lle bu ei pholisi arloesol o roi ail berfformiadau o weithiau gan gyfansoddwyr Cymreig yn hynod lwyddiannus. Mae wedi recordio nifer helaeth o raglenni teledu gan gynnwys cyfres opera arobryn Gŵyl Ffilm Efrog Newydd.
‘Roedd CD fasnachol gyntaf y gerddorfa yn ddisg o weithiau gan William Mathias. Mae dwy CD o weithiau gan Alun Hoddinott wedi’u rhyddhau ers hynny, ac mae CD o weithiau Michael Tippett yn cael ei rhyddhau yn fuan.
Rhan allweddol o bolisi artistig y gerddorfa yw perfformio yn yr ardaloedd hynny yng Nghymru nad ydynt yn aml yn cael cyfleoedd i glywed cerddoriaeth gerddorfaol o gymharu â rhannau eraill o’r wlad. Mae preswyliad ym Mhrifysgol Glyndŵr yn Wrecsam wedi galluogi darpariaeth cyngherddau ysgolion yng ngogledd ddwyrain Cymru, gan gyflwyno miloedd o blant ysgol i’w profiad cyntaf o gyngherdd cerddorfaol byw. Mae’r gerddorfa yn falch o fod yn gysylltiedig â Chanolfan William Mathias yng Nghaernarfon.
Rhaglen:
Coleridge Taylor 4 Novelettes
Mozart Serenata Notturna
Toriad
Gershwin Lullaby
Mozart 40
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.