Ewch at gynnwys
Event Image
Llun 28 Gor
·
Cerddoriaeth

Event Info

Canllaw Oedran: 6+ oed

Rhediad: I’w ddilyn

When Hitler Stole the Music: Bywyd a chaneuon Julia Kerr

Julia Kerr (1898 -1965) - cyfansoddwraig, gwraig yr awdur Alfred Kerr, a mam yr awdur plant clodwiw Judith Kerr a ysgrifennodd The Tiger Who Came to Tea, y gyfres Mog a When Hitler Stole Pink Rabbit, ei nofel yn seiliedig ar hanes y teulu yn ffoi o'r Almaen. ‘Roedd Kerr newydd gwblhau ei hail opera, Der Chronoplan, ym 1933, pan orfodwyd y teulu i ffoi, a bu’r llawysgrif yn teithio gyda nhw, er na chafodd yr opera erioed ei llwyfannu. Gydag adfywiad diddordeb mewn entartete musik yn ddiweddar ('cerddoriaeth ddirywiedig' fel y'i gelwir gan y Natsïaid), bydd y darn yn cael ei berfformio am y tro cyntaf yn y byd yn 2026.

Bydd y Ddr Andrea Hammel, o Ganolfan Symud Pobl Prifysgol Aberystwyth, a’r Athro Christian Leitmeir o Gyfadran Gerddoriaeth Rhydychen, yn trafod profiad Kerr o alltudiaeth fel artist creadigol, ynghyd â pherfformiadau o’i chaneuon, yng nghwmni’r Cyfarwyddwr Artistig, Iwan Davies.

Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.

Event Image

Dyddiadau a Thocynnau

Dydd Llun 28 Gorffennaf, 2025
13:00