Ewch at gynnwys
Event Image
Maw 29 Gor
·
Cerddoriaeth

Event Info

Canllaw Oedran: 6+ oed

Rhediad: I’w ddilyn

Mae Raphael yn 18 oed ac yn dod o Aberteifi yng Ngorllewin Cymru. Yn ddiweddar cwblhaodd lefel A mewn Mathemateg, Ffiseg, a Chemeg yn Ysgol Uwchradd Aberteifi. Ym mis Medi bydd yn dechrau ar ei astudiaethau piano israddedig gyda'r Athro Gareth Owen yn Ysgol Gerdd a Drama'r Guildhall yn Llundain.

Yn enillydd gwobr Cerddor Ifanc Dyfed, ac Unawd Piano Eisteddfod yr Urdd ar gyfer blwyddyn 10 ac o dan 19 oed yn 2024, mae wedi rhoi sawl datganiad ar draws Gorllewin Cymru, gydag uchafbwyntiau yn cynnwys perfformiadau yng ngŵyl Musicfest Aberystwyth, Gŵyl Gerdd Eglwys Gadeiriol Tyddewi, a Gŵyl Gerdd Abergwaun. Ym mis Hydref, bydd yn cyflwyno ei goncerto cyntaf gyda Cherddorfa Siambr Llambed yn Rhosygilwen, yn perfformio 27ain Concerto Piano Mozart yn B-fflat fwyaf, K.595.

Mae ei ddiddordebau cerddorol yn eang, yn amrywio o arddulliau clasurol Mozart a Beethoven i ramantiaeth chwyldroadol Chopin a Schumann, ac arddulliau modernaidd, cyfoes, yn aml dan ddylanwad jas, cyfansoddwyr yr 20fed a’r 21ain ganrif, megis Prokofiev, Barber, Ligeti, a Syr Stephen Hough.

Mae Raphael yn ddiolchgar iawn am y cyfle i berfformio ym Musicfest am yr ail flwyddyn yn olynol ac yn awyddus i rannu ei raglen amrywiol o gerddoriaeth gyda chynulleidfa’r ŵyl.

Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.

Event Image

Dyddiadau a Thocynnau

Dydd Mawrth 29 Gorffennaf, 2025
13:00