Event Info
Dydd Sadwrn 2 Awst - Dydd Sul 3 Awst
12yp - 6yh
Oedran: 14+
Yn y stiwdio serameg.
Dysgwch sut i daflu pot mewn penwythnos gyda Laura Hughes, tiwtor crochenwaith gymwysedig a phrofiadol y Ganolfan, mewn amgylchedd ymlaciol a chyfeillgar.
Mae’r cwrs yn addas i ddechreuwyr llwyr ond mae hefyd yn agored i’r sawl sydd â rhywfaint o brofiad sy’n awyddus i ddatblygu eu sgiliau. Bydd myfyrwyr yn symud ymlaen ar eu cyflymder eu hunain, gyda hyfforddiant personol yn ôl yr angen.
Bydd potiau gorffenedig yn cael eu tanio a'u gwydro i'w casglu maes o law. Cynhwysir deunyddiau yn y pris.
Noddir tymor Haf Wiced Canolfan y Celfyddydau gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gyda chefnogaeth Cronfa Cynnal y Cardi trwy Gyngor Sir Ceredigion.Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn ganolog i agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU ac yn darparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025. Mae’r Gronfa yn anelu at wella balchder mewn lleoliadau a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU trwy fuddsoddi mewn cymunedau a lle, a chefnogi busnesau lleol, pobl a sgiliau. Am ragor o wybodaeth ymwelwch â https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus