Ewch at gynnwys
Event Image
Gwe 11 Gor - Llun 14 Gor
·
Sinema

Event Info

Quatermass Double Bill – The Quatermass Xperiment & Quatermass II (PG)

Wedi eu hadfer yn ddiweddar mewn 4K gan Hammer am y tro cyntaf erioed, dyma gyfle prin i weld dau o glasuron ffuglen-wyddonol mwyaf dylanwadol y stiwdio enwog ar y sgrîn fawr. 

Bil dwbl am £11.50 yn unig ( gan gynnwys ffi archebu o £1.50 )

The Quatermass Xperiment

Val Guest, y DU 1955, 82 munud Y stori arswyd-wyddonol ddiffiniol - a'r ffilm a newidiodd Hammer o fod yn stiwdio ffilmiau-B i fod yn gwmni enwog. Gyda theitl a fanteisiodd ar ei thystysgrif X ar y pryd, mae’r ffilm hon yr un mor bwerus saith degawd ar ôl ei rhyddhau am y tro cyntaf, er bod ganddi ddosbarthiad PG mwy cyfeillgar y dyddiau hyn! Pan mae’r Grŵp Rocedi Prydeinig-Americanaidd yn arbrofi trwy anfon llong ofod â chriw i'r gofod allanol, maent yn colli cysylltiad yn fuan ac mae'r llong yn cwympo i’r ddaear dau ddiwrnod yn ddiweddarach. Ond pan mae’r gwyddonwyr yn torri i mewn i achub y criw o dri dyn, maent yn ffeindio un gofodwr a dwy siwt ofod wag ...

TORIAD

 Quatermass II

Val Guest, y DU 1957, 85 munud

Darganfyddwch stori afaelgar Nigel Kneale am baranoia’r Rhyfel Oer yn nilyniant brawychus stiwdio Hammer i’w llwyddiant ffuglen-wyddonol. Pan mae cyfres o gawodydd meteorit yn disgyn ger safle llywodraeth cyfrinachol, mae’r Proffesor Bernard Quatermass yn cael ei dynnu i mewn i ddirgelwch sydd â goblygiadau erchyll. Mae’r hyn sy’n dechrau fel ymchwiliad gwyddonol yn fuan yn datgelu ymdreiddiad gan estroniaid cudd, sy’n lledaenu’n dawel o dan wyneb yr ymchwil swyddogol. Wrth i’r cynllwyn ymddatod, mae Quatermass yn rasio yn erbyn amser i ddatgelu’r gwir… Yn serennu Brian Donlevy, Vera Day ac yn cynnwys ymddangosiad annisgwyl gan Sid James!

Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.

Event Image

Dyddiadau a Thocynnau

Dydd Gwener 11 Gorffennaf, 2025
14:15
Dydd Llun 14 Gorffennaf, 2025
18:00