Ewch at gynnwys
Event Image
Gwe 10 Hyd
·
Talks & Spoken Word

Event Info

Cyfyngiad Oedran:12+ oed YN UNIG

Rhediad: Mae'r drysau'n agor am 6.30yh, gyda sgyrsiau'r awdur yn dechrau o 7yh. Bydd pob awdur yn darllen o'u llyfrau ac yn rhoi sgyrsiau arno ac yn cymryd cwestiynau o'r gynulleidfa. Cewch gyfle i brynu copïau wedi'u llofnodi o'r llyfrau. Gorffen tua 9.30yh.

Mae Queer Lit Quarterly yn nosono sgyrsiau llyfrauac arwyddo llyfraua gynhelir gan GayberystwythBooks gyda chefnogaethAberration Cymru. Dyma gyfle i gwrddag awduron ac ymchwilwyr hoyw, a fydd yn darllen o’u llyfrau, yn siaradam beth sy’n eu hysgogia’rbroses ysgrifennu, ac yn cymryd cwestiynau o’r gynulleidfa, gan ddod â’r noson iben gyda thrafodaeth banel. Os ydych chi'n caru llenyddiaeth Hoyw, dyma'r digwyddiad perffaith ichi!

Awduron a fydd yn siarad am ei lyfrau:

Laura Clarke, awdur Step Bi Step: The Ultimate Guide for Bisexual, Pansexual and Queer Young People (a gyhoeddir o’r newydd ym mis Medi);

Iqbal Hussain, awdur y nofel gyntaf Northern Boy a ddisgrifiwyd fel: ‘Billy Elliot yn cwrdd â Bend It Like Beckham yn y nofel gyntaf fythgofiadwy hon am anelu'n uchel a herio disgwyliadau - y nofel galonogol berffaith';

Cheryl Morgan - o Wasg Wizard's Tower, cyhoeddwr annibynnol sy'n eiddo i bobl draws yng Nghaerfyrddin. Bydd hi'n siarad am eu gwaith yn cyhoeddi nofelau fel Welcome to Boy.Net gan Lyda Morehouse;

Holly Stars, seren sy'n dod i’r amlwg ym myd drag, yn ddigrifwraig ac yn awdur. Bydd Holly yn hyrwyddo ei nofel gyntaf Murder in the Dressing Room. Cyhoeddwyd y  nofel mewn clawr caled mis Mehefin y llynedd ac fe’i rhyddheir mewn clawr ddiwedd mis Awst. ‘Mae Agatha Christie yn cwrdd â RuPaul yn y dirgelwch llofruddiaeth newydd cyffrous hwn!’.

Bydd y digwyddiad yma efo cynllun seddi 'Cabaret' efo byrddau a chadeiriau.

Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.

Event Image

Dyddiadau a Thocynnau

Dydd Gwener 10 Hydref, 2025
19:00