Event Info
Canllaw Oedran: 12+ oed
Rhediad: tua 90 - 120 munud - cadarnhad I’w ddilyn
Cynhyrchiad Theatr Cymru mewn cydweithrediad â Shakespeare’sGlobe
Romeo a Juliet
Gan William Shakespeare Yn seiliedig ar gyfieithiad J. T. Jones
“Ai dyna iaith dy galon?”
Dau deulu, dwy iaith a phâr o gariadon ifanc sy’n barod i fentro popeth. Dyma olwg newydd ar y stori garu trasig enwog, sy’n gosod ffrae ffyrnig y teuluoedd Montagiw a Capiwlet yng nghymdeithas dwyieithog Cymru – lle mae Cymraeg y Montagiws a Saesneg y Capiwlets yn gwrthdaro. Wrth i ieithoedd wahaniaethu ac uno, mae hen gweryl gwaedlyd yn ail-danio, y cosmos yn troi, a mae dau gariad anffodus yn gwynebu eu tynged. Dan gyfarwyddyd Steffan Donnelly, bydd y cynhyrchiad arloesol hwn yn plethu’r Gymraeg a’r Saesneg, gan archwilio’r hunaniaeth Gymreig a chynnig safbwynt newydd ar ddrama anfarwol Shakespeare.
Iaith y perfformiad: Cymraeg a Saesneg - Darperir capsiynau Cymraeg a Saesneg drwy gyfrwng yr ap Sibrwd
Canllawiau Cynnwys: Mae Romeo a Juliet yn cynnwys golygfeydd rhywiol, trais corfforol, arfau, llofruddiaeth a hunanladdiad.
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.