Event Info
Tymor 2: Dechrau 28.04.2025 tan 12.07.2025
Faint o wythnosau: 9 wythnos ( dim gwersi ar 05.05.2025, 21.06.2025 neu yn ystod hanner tymor )
Pryd: Dydd Llun 4:00 - 5:00yp + Dydd Sadwrn 12:45 - 1:45yp
Oed: 12-18
Lleoliad: Stiwdio Ddawns 2 & Stiwdio Ddawns 3+4
Tiwtor: Miss Sarah
** Gostyngiad ar gael i fyfyrwyr Theatr Ieuenctid Hŷn ac Ifanc - cysylltwch â'r Swyddfa Docynnau **
Yn y dosbarth calonnog ac hwyliog hwn, gallwch ddisgwyl gweithio ar gymysgedd o alawon sioe, y cyfan wedi eu cynllunio i gael eich traed yn symud a’ch calon yn pwmpio. Bydd Miss Sarah yn eich arwain trwy gyfres o ddawnsiau o wahanol sioeau cerdd poblogaidd.Byddwch yn datblygu technegau i’ch helpu i adrodd stori trwy ddawns. Bydd y dosbarthiadau dawns hyn yn eich tywys trwy dechnegau steiliau cerddorol eiconig a ysbrydolwyd gan enwogion megis Bob Fosse, Gene Kelly a Jerome Robbins. Nid oes rhaid i chi fod y dawnsiwr gorau, ‘rydym jyst yn edrych am barodrwydd i ddysgu, egni a brwdfrydedd! ‘Does dim angen profiad! Cynhelir y dosbarth hwn dwywaith yr wythnos, 4pm-5pm ar Ddydd Llun yn Stiwdio Ddawns 2 a 12:45pm-1:45pm ar Ddydd Sadwrn yn Stiwdio Ddawns 3 a 4.