Ewch at gynnwys
Event Image
Sad 25 Hyd
·
Cerddoriaeth

Event Info

Canllaw Oedran: 10+ oed

Rhediad: 60 munud dim toriad

Yn cael ei ystyried fel ‘uwch-grŵp o fewn cylchoedd cerddoriaeth newydd yn Iwerddon’ gan Ŵyl Gerddoriaeth Gyfoes Huddersfield, mae Stone Drawn Circles wedi dod â rhywbeth newydd i gerddoriaeth gyfoes Wyddelig. Mae’r perfformiad hwn yn cynnig taith drwy wahanol genres a ffurfiau o gelfyddyd sain gyfoes, gan gynnwys gwaith gan y cyfansoddwyr Gwyddelig Úna Monaghan, Karen Power a Brian Irvine, yn ogystal â’r cyfansoddwyr o Awstralia a Chanada Cat Hope Landay a Nicole Lizée.

'Crëwyd In Formation' a 'Landay Sequenza' gyda chymorth ariannol Gwobr Gomisiwn a ariannwyd gan Gyngor y Celfyddydau/An Chomhaírle Ealaíon. Comisiynwyd A Call to Arms gan Brian Irvine gan y Ganolfan Gerddoriaeth Gyfoes ar gyfer Stone Drawn Circles gydag arian o gyllid Beyond Borders Sefydliad PRS. Cefnogir Stone Drawn Circles gan Gyngor Celfyddydau Iwerddon. Rheolir taith Stone Drawn Circles: In Formation gan y Ganolfan Gerddoriaeth Gyfoes, Iwerddon, gyda chefnogaeth cyllid Beyond Borders Sefydliad PRS .

Canllawiau Cynnwys: Sŵn uchel / Gweiddi yn rhan o'r perfformiad

Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.

Event Image

Dyddiadau a Thocynnau

Dydd Sadwrn 25 Hydref, 2025
19:00