Event Info
Linus O'Brien, UDA 2025, 90 munud
O’i dechreuadau gostyngedig fel drama theatr ymylol yn Llundain i'w chodiad meteorig fel y ffilm gwlt fwyaf erioed, dyma stori ddiffiniol y Rocky Horror Show. Gyda chysylltiadau agos gyda’i chreawdwr Richard O’Brien (cyfarwyddwyd y ffilm gan ei fab), mae'r ffim ddogfen hon yn archwilio sut y bu ei themâu dadleuol arloesol, perfformiadau eiconig a chaneuon epig yn cymryd diwylliant poblogaidd drosodd, a sut mae’n dal i fod yn boblogaidd dros 50 mlynedd yn ddiweddarach. Nodweddir hefyd cyfweliadau datguddiol gyda chast gwreiddiol y ffilm gan gynnwys Tim Curry, Susan Sarandon, Barry Bostwick, Patricia Quinn, a Nell Campbell.
15: Mae'r ffilm hon wedi cael ei chofrestru "15". Mae hynny'n golygu ei fod yn anaddas i unrhyw un sy'n iau na hynny. Mae'n drosedd caniatáu i unrhyw ei weld o dan yr oedran hwnnw, felly os nad ydych chi'n edrych yn ddigon hen, bydd angen gwireddiad oedran priodol arnoch i fynd i mewn. Diolch yn fawr a mwynhewch y ffilm.