Event Info
Canllaw Oedran: 14+ oed - mae 1 neu 2 gofalwyr yn cael dod am ddim gyda pob ymwelydd heb tocyn ychwanegol
Rhediad: 60 munud dim toriad
Cwmni Frozen Light yn cyflwyno:
The Ancient Oak of Baldor
Stori werin am gariad, colled a chydgysylltiad popeth.
Mae'r Dderwen Hynafol yn sefyll yn gryf yng Nghoedwig Baldor, yng ngwlad Earten. Yno mae wedi sefyll ers miloedd o flynyddoedd, wedi'i gwreiddio'n ddwfn yn y tir ac ym mhobl y goedwig. Ar y diwrnod hwn ar drothwy'r gaeaf, mae pobl Baldor yn dathlu Clecian Mawr y Dderwen Hynafol.
‘Roedd Elspeth yn gobeithio mai dyma'r diwrnod y byddai Lars yn dychwelyd. Ond pan nad yw, mae hi'n cael ei chymryd ar daith annisgwyl. Un na fydd hi byth yn ei hanghofio.
Mae cwmni Frozen Light yn eich croesawu i'w byd ffantasi diweddaraf, lle ‘rydym yndarganfod mai’r hyn sy'n ein maethu mewn gwirionedd trwy'r nosweithiau hir yw cariad, ar bob un o'i wahanol ffurfiau.
Profiad aml-synhwyraidd i gynulleidfaoedd gydag anableddau dysgu dwys a lluosol a'u cymdeithion, sy’n cynnig y cyfle i ddod at ei gilydd a phrofi pŵer cyfunol straeon a rennir.
Iaith y perfformiad: Saesneg
Canllawiau Cynnwys: Mae'r gwaith yn aml-synhwyraidd ac wedi'i greu ar gyfer cynulleidfaoedd oedolion gydag anableddau dysgu Dwys a Lluosol. Themâu oedolion yn unig.
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni ar 01970 623232 os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.
Gwelwch ein tudalen Gwybodaeth Mynediad YMA
Trwy archebu tocynnau, ‘rydych yn cydnabod y gall eich manylion cyswllt (enw, cyfeiriad e-bost, a rhif ffôn) gael eu rhannu gyda Frozen Light Theatre at ddibenion hanfodol sy'n gysylltiedig â'r digwyddiad, megis cyfathrebu a chydlynu. Mae’r prosesu hwn yn cael ei weithredu o dan ein buddiant dilys wrth sicrhau bod y digwyddiad yn cael ei gyflawni'n effeithiol. Ni ddefnyddir eich gwybodaeth at ddibenion marchnata oni bai eich bod wedi rhoi caniatâd ar wahân.
Ymunwch a Llythyr Newyddion Frozen Light Theatre YMA