Event Info
James Griffiths, UK 2025, AD, 100munud
HOH : Dangosiad gydag isdeitlau ar 11 Mehefin am 5.30yp
Mae enillydd loteri ecsentrig yn breuddwydio am aduno ei hoff gerddorion gwerin ar gyfer sioe unigryw yn ei gartref ei hun ar ynys Gymreig anghysbell. Gan eu gwahodd ar wahân, heb ddweud wrthynt mai ef fydd yr unig aelod o’r gynulleidfa, mae’r cerddorion yn cyrraedd ar ôl degawd o ymwahaniad, ond yn fuan iawn mae hen densiynau’n dod i’r amlwg a all achosi i’r gig y breuddwydiodd amdani gael ei chwalu. Carey Mulligan, Tim Key a Tom Basden sy’n serennu yn y gomedi hyfryd a swynol hon.