Ewch at gynnwys
Event Image
Mer 17 Med
·
Cerddoriaeth

Event Info

Cyfyngiad Oedran: 12+ oed YN UNIG

Rhediad: 60 munud/toriad 20 munud/60 munud

Mae'r Drifters yn ôl ar daith yn y DU yn perfformio eu holl ganeuon clasurol gan gynnwys ‘Saturday Night at the Movies’, ‘You’re More Than A Number,’ ‘Come on Over to My Place’, ‘Under the Boardwalk’, ‘Kissin’ In The Back Row’ a llawer mwy! Mae'r grŵp chwedlonol wedi cael eu derbyn i Neuadd Enwogion Roc a Rôl; wedi perfformio i Arlywydd yr Unol Daleithiau ac wedi'u rhestru ymhlith yr Artistiaid Gorau Erioed gan gylchgrawn Rolling Stone.

O dan arweiniad Tina Treadwell (merch sylfaenwyr gwreiddiol y grŵp, George a Faye Treadwell) mae’r Drifters wedi mwynhau adfywiad rhyfeddol yn ystod blynyddoedd diweddar gyda nifer o deithiau llwyddiannus yn y DU gan gynnwys sioeau blaenllaw mewn arenâu mawr ac, yn fwyaf nodedig, y Neuadd Frenhinol Albert fyd-enwog yn Llundain am y tro cyntaf erioed yn ystod eu gyrfa ddisglair. Meddai Tina, wrth siarad am y daith, “’Rwyf wrth fy modd efo llwyddiant ein teithiau diweddar yn y DU ac ‘rydym yn eich gwahodd chi i gyd i ymuno â ni wrth barhau i ddathlu stori anhygoel a diamser y Drifters.”

Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.

Event Image

Dyddiadau a Thocynnau

Dydd Mercher 17 Medi, 2025
20:00