Event Info
Jay Roach, UDA 2025, AD,105 munud
HOH : Dangosiad gydag isdeitlau ar 8 Medi am 5.30yp
Mae Olivia Colman a Benedict Cumberbatch yn rhoi perfformiadau gwych fel Ivy a Theo, cwpl a ymddengys yn berffaith gyda gyrfaoedd llwyddiannus a phriodas gariadus. Ond y tu ôl i’w bywyd delfrydol, mae storm yn codi. Wrth i yrfa Theo blymio, mae gyrfa Ivy yn ffynnu, ac mae cystadleuaeth ffyrnig ar fin tanio. Gan osod dau o actorion mwyaf poblogaidd Prydain yn erbyn ei gilydd, mae hon yn gorwynt comig o ffraeo, cwyno a thrywanu cefn, yn seiliedig ar The War of the Roses. Hefyd yn serennu Ncuti Gatwa.