Event Info
Marianne Elliott, y DU 2024, AD, 115 munud
HOH : Dangosiad gydag isdeitlau ar 17 Mehefin am 5.00yp
Gyda'i golygfeydd arfordirol anhygoel a dramatig, mae Gillian Anderson a Jason Isaacs yn serennu yn y stori wir am daith gerdded 630 milltir y gŵr a'r wraig, Raynor a Moth Winn, ar hyd arfordir hardd ond garw Cernyw, Dyfnaint a Dorset. Ar ôl cael eu gorfodi i symud o'u cartref, maent yn gwneud y penderfyniad byrbwyll i gerdded, yn y gobaith y byddant, ym myd natur, yn dod o hyd i gysur a theimlad o fodlonrwydd. Gydag ychydig iawn o arian, a dim ond pabell a rhai eitemau hanfodol rhyngddynt, mae pob cam ar hyd y llwybr yn eu dwyn yn agosach at natur ar daith sy’n gynyddol heriol.