Ewch at gynnwys
Event Image
Iau 21 Awst
·
Teulu

Event Info

Cyngyrchiad Haf 2025 gan Canbolfan y Celfyddydau Aberystwyth

The Wizard of Oz - Perfformiad Ymlaciol

Yn ystod y perfformiad ymlaciol, gwneir rhai newidiadau technegol i’r perfformiad gan gynnwys cerddoriaeth dawelach, lleihau effeithiau sain swnllyd neu annisgwyl, a chadw’r goleuadau ymlaen yn y theatr ar gyfer cynulleidfaoedd. Byddwn yn darparu gwybodaeth ymlaen llaw i egluro beth i'w ddisgwyl, ynghyd â lluniau o'r lleoliad. Peidiwch â phoeni os oes angen i chi fynd i mewn ac allan o’r theatr yn ystod y perfformiad, bydd tîm cyfeillgar Canolfan y Celfyddydau ar gael i roi unrhyw gymorth sydd ei angen arnoch.

Cyfarwyddwr Richard Cheshire 

Cyfarwyddwr Cerddorol David Roper

‘Rydym ar ein ffordd i weld y Dewin! 

Ymunwch â ni ar yYellow Brick Road a thros yr enfys i Wlad Oz, lle ymunir â Dorothy a’i chi ffyddlon Toto gan ffrindiau newydd sef y Bwgan Brain, y Gŵr Tun a’r Llew Llwfr wrth iddi geisio ffeindio’i ffordd adref. 

Gyda chast proffesiynol a band byw, ‘rydym yn addo noson o gerddoriaeth fendigedig, gwrachod drygionus (a rhai da hefyd), a’r gwerthoedd cynhyrchu uchel y mae Sioeau Haf Canolfan y Celfyddydau yn adnabyddus amdanynt. 

Os oeddech wedi mwynhau Wicked,wel dewch draw i weld beth ddigwyddodd nesaf… 

Perfformiad BSL ar Ddydd Sadwrn, 23 Awst 7yh - ARCHEBWCH YMA

Mwy o berfformiadau o'r 8 - 30 Awst - ARCHEBWCH YMA

Canllaw Oedran:Addas i bawb

Rhediad: I’w ddilyn

Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.

Event Image

Dyddiadau a Thocynnau

Dydd Iau 21 Awst, 2025
14:00