Amrywiaeth o stondinau yn llawn ysbrydoliaeth ar gyfer anrhegion unigryw
Dewch i bori drwy’r amrywiaeth eang o anrhegion sydd ar gael, o grefftau a serameg wedi’u gwneud yn lleol i siocledi a danteithion blasus
Mae Ffair Grefftau’r Gaeaf Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth 2023 yn addo i fod yn uchafbwynt y tymor Nadoligaidd, gan arddangos talentau crefftwyr ac artistiaid lleol gyda thros 50 o stondinau yn gwerthu amrediad hyfryd o grefftau ac anrhegion.
Gall ymwelwyr ddisgwyl amrediad eang o grefftau unigryw a wneir â’r llaw, yn amrywio o serameg a chrochenwaith i decstiliau, gemwaith a gwaith coed. Mae pob darn yn cael ei grefftio’n ofalus gan artistiaid talentog, gan sicrhau ansawdd uchel a sylw at fanylion. Un o nodweddion allweddol y ffair yw ei phwyslais ar gefnogi talent leol. Mae llawer o’r artistiaid sy’n arddangos eu gwaith yn dod o Aberystwyth a’r cyffiniau, gan roi cyfle i ymwelwyr ddarganfod a chefnogi’r gymuned greadigol fywiog yn yr ardal.
Mae Ffair Grefftau’r Gaeaf yn llawer mwy na phrofiad siopa yn unig; mae’n ddathliad o’r celfyddydau ac yn fodd i gryfhau’r sîn greadigol leol. Mae’r digwyddiad yn meithrin ymdeimlad o gymuned, gan y gall ymwelwyr sgwrsio â chyd-selogion celf, cyfnewid syniadau, a datblygu cysylltiadau gydag unigolion o’r un meddylfryd.
Hefyd, mae’r ffair yn cyfrannu at dyfiant economaidd y rhanbarth. Trwy arddangos ac hyrwyddo artistiaid lleol, mae’n annog cefnogaeth busnesau bach.
Gyda’i naws Nadoligaidd a’i thoreth o dalent artistig, mae Ffair Grefftau’r Gaeaf yn ddigwyddiad y dylai unrhyw un sy’n chwilio am anrhegion unigryw a meddylgar ymweld ag ef. Os ydych yn chwilio am ddarn hyfryd o emwaith, addurniad Nadolig wedi’i wneud â llaw, neu eitem decstiliau steilus, ni chewch eich siomi gan yr amrywiaeth eang o grefftau sydd ar gael.
I’r rhai sydd am gymryd hoe fach rhag siopa, mae sinema Canolfan y Celfyddydau yn dangos ffilmiau yn y prynhawn a min nos ac mae ganddi gaffi hyfryd sy’n cynnig golygfeydd ar draws Bae Ceredigion ac yn darparu saladau iachus, bwyd poeth cartref a chacennau blasus tu hwnt! Yn Waffl (Caffi’r Piazza) gweinir hefyd latte sinsir a dewis gwych o bwdinau bendigedig. Hefyd ceir nifer o berfformiadau cerddorol Nadoligaidd byw gan gerddorion lleol i ychwanegu at yr awyrgylch tymhorol. Gallwch hefyd gynllunio eich diwrnod ac wedyn aros ymlaen am berfformiad yn yr hwyr! Mae Ffair Grefftau’r Gaeaf Canolfan y Celfyddydau 2023 yn addo i fod yn brofiad pleserus a difyr i bawb. Trefnwch ymweliad â’r ffair unigryw hon a darganfyddwch hud crefftau wedi eu gwneud â llaw yn nhref gyfareddol Aberystwyth.
Mae’r Ffair Grefftau ar agor 10am – 8pm Dydd Llun tan Dydd Sadwrn a 12-5pm ar Ddydd Sul. Diwrnod ola’r Ffair yw 22ain Rhagfyr, felly ymwelwch yn fuan!
Bydd artistiaid yn cynnwys:
Moriath Glass |
Anita Woods |
Carmel Pottery |
Natural & Welsh Candles |
Siramik |
Goetre Farm Preserves |
TOLOJA ORCHARDS |
duncanandkarenpottery.co.uk |
Elin Mair – Janglerins |
Hannah Doyle Printmaker |
The Shed by The Stream |
Iâr Fach yr Haf |
Penrhiw Pottery |
Celtic Treasure |
Myfanwy Brewster |
GEMWAITH IOEL JEWELLERY |
Jude Riley Marbling |
Aled Jenkins welsh slate |
Nantyfelin Pottery |
BEAMERS |
Claire Tuxworth Art |
Dan Santillo Photography |
Lisa Osborne |
Sarah Bunton Chocolates |
Crafts Mid Wales |
Jules Tattersall. Woodturner |
Yvette Brown |
Kutis Skincare |
ClareBella Designs |
Carys Boyle Ceramics |
Pretty Little Things |
Lifeforms Art |
mimmshandmade |
PearPrint |
Tony White |
Penlanlas Cymru Soaps |
Katy Mai |
Wireworks Jewellery |
PENNY SAMOCIUK ART |
rag art studios |
Dai Davies |
David Small Ceramics |
CandypatCrafts |
Kim Sweet |
Twig and Flint |
Eastland ceramics |
Mopsy Doodles Crafts |
Jahooli |
Plant on the Wall |
Andy Davies Jewellery |
Driftwood Designs |
Mantle Brewery |