Chwarae Materol
Mehefin 10fed- Awst 5ed
Artist tecstilau yw’r Gymraes Ffion Evans sy’n croesawu’r cyffyrddol, yn gwahodd gwylwyr i ymgysylltu gyda’u synhwyrau a’u chwarëusrwydd. Mae hi’n gwneud ei gwaith celf er mwyn iddo gael ei gyffwrdd. Wedi’i hysbrydoli gan ddeunyddiau a gwrthrychau bob dydd a’r perthnasau rydym yn eu ffurfio â nhw, mae Ffion yn archwilio themâu megis gwead, arogl a phwysau o fewn ei cherfluniau esmwyth. Gyda dull amlsynhwyraidd, mae hi’n ceisio creu gofod ar gyfer archwilio a rhyngweithio, ac yn annog gwylwyr i gofleidio eu chwilfrydedd ac i ymgysylltu gyda’r gwaith celf, gan ddarganfod cyfnodau o hapusrwydd. Mae Ffion eisiau arddangos amrywiaeth, harddwch a phwysigrwydd tecstilau o fewn y byd yn enwedig pan ddaw i gefnogi llesiant drwy gelf.
Instagram: @ffionevanstextiles