Ewch at gynnwys
Mae Gwobr Ian McKellen yn gyfle gwych i bobl ifanc sy’n frwd dros y celfyddydau creadigol. Mae’n darparu cefnogaeth ariannol a chydnabyddiaeth i’w dawn, ac yn eu helpu i wireddu eu breuddwydion

 

Ynglŷn â’r wobr

Pan ddaeth Syr Ian McKellen i berfformio yng Nghanolfan y Celfyddydau ym mis Chwefror 2019 ar gyfer ei daith pen-blwydd yn 80 oed, cafodd yr holl arian a godwyd o werthu tocynnau a rhoddion yn ystod ei ymweliad ei gadw’n ddiogel i’w ddefnyddio i gefnogi ein gwaith gyda phobl ifanc.

Er anrhydedd i ddyn mor ysbrydoledig, ac i wneud defnydd da o’r arian hwn, fe wnaethom sefydlu Gwobr Ian McKellen ar gyfer pobl ifanc.

Bob blwyddyn, byddwn yn dyfarnu £500 i unigolyn sy’n dangos potensial artistig ac angerdd dwfn am yr hyn y mae’n ei wneud. Bydd yr arian yn helpu gyda’u hastudiaethau felly mae’n rhaid i’r derbynnydd hefyd fod wedi sicrhau lle ar gwrs astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod.

 

Pwy all gymryd rhan?

Mae’r wobr hon yn agored i unrhyw un rhwng 16 a 25 oed sy’n frwd dros y celfyddydau creadigol ac sydd am barhau â’u hyfforddiant galwedigaethol. P’un a oes gennych ddiddordeb mewn theatr, dawns, celfyddydau gweledol, neu unrhyw beth arall, rydym am eich helpu i gyrraedd eich llawn botensial.

Gwobr Ian McKellen Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth – Termau ac Amodau Llawn
2025
1. Mae’r Wobr yn agored i unrhyw berson ifanc rhwng 16 – 25 oed sy’n bwriadu parhau ei
hyfforddiant gyrfäol yn y celfyddydau creadigol – yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i,
theatr, dawns a’r celfyddydau gweledol.
2. Anelir y Wobr at bobl ifanc rhwng sy’n gallu dangos addewid artistig ac angerdd tuag at
eu ffurf gelf ddewisedig, ac sydd wedi ennill lle i astudio yn ystod y flwyddyn academaidd
ganlynol.
3. Mae croeso i’r sawl sydd wedi ymgeisio am y Wobr o’r blaen gyflwyno cais arall.
4. Rhaid i ymgeiswyr gyflwyno cais i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth erbyn Dydd
Gwener 18fed Gorffennaf yn defnyddio’r ffurflen gais swyddogol.
5. Rhaid anfon ceisiadau at lao8@aber.ac.uk
6. Disgwylir i ymgeiswyr fynychu cyfweliad byr i drafod eu cais yn ystod Awst 2024.
7. Bydd y Panel Dyfarnu yn cyfarfod i benderfynu’r enillydd/enillwyr yn ystod mis
Gorffennaf / Awst 2025; mae penderfyniad y Panel Dyfarnu yn derfynol.
8. Gwerth y Wobr yw £500. Gall y Panel ddewis cynnig y swm cyfan i un ymgeisydd, neu ei
rannu rhwng dau ymgeisydd llwyddiannus. Mae’r Wobr ar gyfer un flwyddyn yn unig.
Gwneir y taliad yn uniongyrchol i gyfrif banc y derbynnydd.
9. Un Wobr sydd ar gael ar gyfer 2025.
10. Disgwylir i dderbynnydd y Wobr gyflwyno adroddiad ar ddiwedd y flwyddyn academaidd
yn dynodi sut mae’r cwrs wedi bod o fudd iddo/iddi. Byddai’r Ganolfan yn awyddus i
gadw cysylltiad yn ystod y cyfnod astudio a thu hwnt, ac i gynnig unrhyw gefnogaeth
fentora a all fod o gymorth i’r unigolyn.
11. Os na chydymffurfir ag unrhyw un o’r gofynion uchod fe ddiddymir y Wobr.

Enillwyr y gorffennol

2024

Rhys Nutting BA(Hons) in Sound Technology at The Liverpool Institute for Performing Arts (LIPA)

2023

Gruffydd Rhys Evans. Astudio BA Hons mewn Actio yn Academi Frenhinol y Celfyddydau Dramatig (RADA).

2022

Tom Mathias, Diploma Perfformiwr Unawdydd Feiolin ym Mhrifysgol Indiana, Ysgol Cerddoriaeth Jacobs.

2021

Osian Pearson, MA mewn Golygu yn yr Ysgol Ffilm a Theledu Genedlaethol

2020

Cerys Havana Hickman, aml-offerynnwr yn arbenigo yn y delyn deires a phiano, Cerddoriaeth (BMus) yn Goldsmiths, Prifysgol Llundain