Ewch at gynnwys

IMPACTArdrawiad

21 Gorffennaf i 11 Chwefror 2024

Oriel 1

 

Mae Angharad PearceJones yn gweithio mewn dur ers dros 30 mlynedd, ac mae hon – ei sioe fwyaf arwyddocaol hyd yma, yn cyfuno ei sgiliau fel crefftwraig, gwneuthurwraig, cerflunydd ac artist gosodwaith, trwy ailweithio gosodiad a godwyd yn wreiddiol yn ei chartref yn ystod y Cyfnod Clo. Mae’r gwaith yn deillio o ganfyddiad yr artist o hollt mewn cymdeithas yn dilyn refferendwm Brexit 2016, a thra bod Angharad wedi’i swyno gan allu ei hoff ddeunydd i naill ai carcharu, rhannu neu amddiffyn, mae hi hefyd wedi’i swyno gan ei allu i blygu, ymestyn a chwalu, mewn cyfres o gerfluniau sy’n ail greu’n fanwl, enghreifftiau o drawiad.  Mae’r gweithiau celf achlysurol hyn yn ganlyniad o saith mlynedd o ddogfennu gatiau a rheiliau wedi plygu, pob un â’i naratif ei hun, na fydd ond y sawl a welodd y trawiad gwreddiol yn dyst iddo.

Gof, Cerflunydd ac Artist Gosodiwaith yw Angharad Pearce Jones, wedi’i lleoli yng Ngorllewin Cymru. Graddiodd o’r cwrs  BA (Anrh) Dylunio a Chrefft 3D enwog ym Mhrifysgol Brighton yn y 90au cynnar cyn cwblhau MA mewn Celfyddyd Gain yn Ysgol Gelf Caerdydd.Yn ogystal â’i ymarfer creadigol, mae Angharad yn cymhwyso ei sgiliau gwneuthuriad metel i brosiectau adfywio dinesig, gan greu propiau ar gyfer teledu a ffilm, gatiau a rheiliau ar gyfer y diwydiant adeiladu a cherflunio cyhoeddus. Mae hi wedi arddangos ei gwaith yn rheolaidd ym Mhrydain a thramor a hi oedd prif ddylunydd ‘Wales in The Smithsonian Festival’ yn Washington DC, yn 2009.Yn fwy diweddar, bu’n gweithio fel cynorthwyydd i’r artist Eifftaidd Anna Boghiguian, ar ei gosodiadau diweddaraf ar gyfer Gwobr Artes Gwobr Mundi a Tate St Ives.

Ewch i wefan Angharad yma

Adolygiad gan Nation Cymru.

Cyfweliad Nation Cymru ar AM

Noder os gwelwch yn dda:  Bydd y Ganolfan y Celfyddydau yn cau ar ôl y sioe olaf ar y 22 Rhagfyr a bydd yn ail agor ar y 2 Ionawr.