Lliw fel Iaith
Mai 21ain – Awst 11eg
Mae’r paentiadau olew dau a thri-dimensiwn hyn ar bren yn creu fforest o liw lle gellir ystyried stori gudd coed. Gan ddefnyddio pren cwymp a roddwyd gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn dilyn Storm Arwen, yn ogystal â phren o Creta ac Ynys Môn, mae’r arddangosfa’n cyflwyno cyfle unigryw i ystyried syniadau am liw, siâp, ffurf a gofod.
Mae John yn gweithio gyda gwahanol fathau o bren o ffynonellau cynaliadwy, gan ddefnyddio ffurf o fapio i adrodd stori gudd coeden trwy ddealltwriaeth ddofn o liw a’r defnydd o fetelau gwerthfawr. Daw ag ymwybyddiaeth o hanes y goeden y daeth y pren ohoni: ei math, siâp, marciau ac effaith ei lleoliad.
Curadwyd gan Anders Pleass