Ewch at gynnwys
Arddangosfa Fan Hyn a Fan Draw

Yn adnabyddus am ei gwaith mewn tsieni esgyrn a phorslen, comisiynwyd Lowri Davies gan Ganolfan Grefft Rhuthun i greu cyfres fach o brintiau cyn cynnal ei sioe solo yn y ganolfan yn 2025. Mae’r lluniadau a motiffau llinell gain sy’n addurno ei chwpanau, jygiau a fasau yn cael eu trosi yma yn ysgythriadau.

Cafodd Lowri ei magu yn Aberystwyth ac mae bellach yn gweithio yn Stiwdios Fireworks Clay yng Nghaerdydd. Yn aml, ei threftadaeth Gymreig yw ffynhonnell ei delweddaeth.

Ymelrd â Wefan Lowri