Ewch at gynnwys

Tach 25ain – Ebrill 14eg 2025 

‘Rydym wrth ein bodd bod Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth wedi’i dewis i fod yn rhan o fenter gyffrous sy’n sefydlu Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol i Gymru – CELF. 

 Mae CELF yn gweld 9 oriel ar draws Cymru yn ffurfio partneriaeth gydag Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru gyda’r nod o rannu ein casgliad cenedlaethol o gelf gyfoes yn ehangach. Trwy raglen fenthyciadau, allgymorth a chomisiynu helaeth, bydd pobl yng Nghymru yn medru archwilio’r casgliad yn eu horielau lleol eu hunain yn ogystal ag ar-lein. 

O ganlyniad ‘rydym wedi derbyn buddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru trwy Gyngor Celfyddydau Cymru i’n helpu i wella isadeiledd ein prif oriel. 

Yn y cyfamser, mae ein horielau eraill yn parhau ar agor a byddwn yn lansio rhaglen ymgysylltu cymunedol newydd yn ogystal â chomisiynau CELF newydd cyffrous – cadwch lygad ar ein gwefan am y newyddion diweddaraf. 

 Mae CELF yn bartneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, Oriel Myrddin yng Nghaerfyrddin, Oriel Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Oriel Davies yn y Drenewydd, Storiel ym Mangor, Plas Glyn y Weddw yn Llanbedrog, Canolfan Grefft Rhuthun, Mostyn yn Llandudno, Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd ac Oriel Gelf Glynn Vivian yn Abertawe.  Ariennir y fenter gan Lywodraeth Cymru.