Ewch at gynnwys

Mary Lloyd Jones

21ain Ionawr – Ebrill 2il

Roedd yr arddangosfa hon yn dathlu un o artistiaid mwyaf poblogaidd a sefydledig Cymru, Mary Lloyd Jones. Mae gan waith Mary ymwybyddiaeth o hanes Cymru a thrysorau ei thraddodiadau llenyddol a llafar, gan adlewyrchu ei hunaniaeth a’i pherthynas â’r wlad. Mae ei gweithiau aml-haenog yn ymchwilio i ddechreuadau iaith, marciau cynnar dyn a’r wyddor Ogham a barddol. Mae Mary wedi arddangos ei gwaith yn eang ers canol y 1960au – yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Gwelir gwaith Mary yn cael eu arddangos ar draws y Ganolfan