Ewch at gynnwys

Dyddiad Cau Cyflwyniadau: Awst 18eg 2025

Mae ceisiadau nawr ar agor i artistiaid cyflwyno eu gwaith celf ar gyfer Oriel Ffenestr y Piazza wrth fynedfa isaf yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Bydd yr ymgeisydd buddugol yn derbyn £200. Am ragor o wybodaeth ac os hoffech gyflwyno cynnig, cysylltwch a Gerallt get25@aber.ac.uk erbyn Awst 18eg 2025.

Gan wynebu tirlun prydferth Aberystwyth a Bae Ceredigion, mae Oriel Ffenest y Piazza yn lleoliad golau a bywiog ar y piazza sydd yn cysylltu Canolfan y Celfyddydau, Llyfrgell Hugh Owen ac Undeb y Myfyrwyr. Wedi’i leoli ger y prif fynedfa a’r Oriel Serameg, Oriel y Piazza yw’r elfen weledol gyntaf i groesawu ymwelwyr o’r prif man ymgynull sydd hefyd yn cael eu oleuo dros nos.

Mae’r galwad yn agored i artistiaid ar ddechrau eu gyrfa mewn unrhyw gyfrwng.

Mae’r oriel yn debyg i ‘Ffenest Siop’, ac yn cyflwyno sialens diddorol ar gyfer arddangos, ac rydym yn hybu artistiaid i ystyried hyn yn ei cais. Ar gyfer eich cais, ni’n gofyn i chi gynnwys:

-5 delwedd o’ch gwaith

-Datganiad byr o’ch gwaith gan gynnwys eich syniadau ar gyfer y gwaith newydd, a sut fyddech chi yn mynd ati i ymateb i’r gwagle.

-Pa slot arddangosfa mae gennych diddordeb ynddo (gan ystyried fod y gwagle yn wahanol iawn dros y tymhorau o ran golau, gyda gwaith ffilm / golau yn gweithio orau yn ystod y Gaeaf)

-CV diweddar

(1) Hydref 3ydd – Tachwedd 23ain 2025

(2) Chwefror 7fed – Ebrill 3ydd 2026

(3) Ebrill 11eg – Mehefin 6ed 2026

(4) Mehefin 13eg – Awst 7fed 2026

(5) Awst 15fed – Hydref 9fed 2026

(6) Hydref 17eg – Tachwedd 23 ain 2026